CARARE

Gorffennol Digidol - Digital Past 2018

Feb. 7, 2018 – Feb. 8, 2018
Aberystwyth Arts Centre, Wales, Uk
Digital_Past_2018.jpg

Celebrating ten years of new technologies in heritage, interpretation and outreach. Dathlu deng mlynedd o dechnolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan.

Digital Past is a two-day conference which showcases innovative digital technologies for data capture, interpretation and dissemination of heritage sites and artefacts.

As this year marks Digital Past’s 10th anniversary, it will reflect on the exciting developments over ten years of digital heritage, the lessons learnt, and the opportunities and challenges for the sector in the decade ahead.

Digital Past 2018 will be held in the award-winning Aberystwyth Arts Centre, Wales’s largest arts centre with stunning views over the historic market town and resort – also a lively university town – and Cardigan Bay. Aberystwyth, the ‘Biarritz of Wales’, sits at the heart of the beautiful west Wales coastline, conveniently located on the mainline Cambrian Line railway.

The conference will offer a combination of papers, hands-on workshops and demonstrations to investigate the latest technical survey and interpretation techniques and their practical application in heritage interpretation, education and conservation.

Call for contributions

Submissions are being sought from those working on innovative projects on the themes outlined below in a research or operational capacity, who can contribute to this both retrospective and forward-looking conference. Contributions can be made through formal presentations or workshops, or more informally through the ‘unconference’ session or a show stand. Contributions through the medium of Welsh or English, or bilingually are welcome.

Themes and topics

The two main strands of the conference will be Digital Technologies and Digital Heritage, which may encompass digital survey (Terrestrial Scanning, Geo-physics, LiDAR, Photogrammetry, UAV’s, etc.), data processing, manipulation and analysis (including GIS & BIM), data storage and archiving, 3D modelling and reconstruction, visualisation and animation, Augmented Reality, Virtual Reality, gaming, immersive environments, 3D printing, e-publication, crowd sourcing, communities, education, engagement, interpretation and tourism.

As this is the 10th Digital Past conference, is also seeking papers that take both a celebratory and critical look at the developments over ten years of digital heritage, the lessons learnt, and the opportunities and challenges for the sector in the decade ahead.

Other topics may include but are not limited to:

  • Effects of digital technologies on equality, diversity and accessibility of the heritage sector;
  • Implications of digital/innovative requirements by funding bodies;
  • Implications of Brexit on funding of, and cooperation in, digital technologies;
  • Implications of austerity on technological innovation and development
  • Implications of bilingualism on digital platforms.

Papers

20 minute papers presented in a conventional arrangement of presentation and PowerPoint format. Each session will consist of 4 such papers, with a 10 minute question and discussion period at the end of each session. Due to the tightly packed schedule, a strict adherence to time will be followed.

Workshops

To be held on the morning of the 8 February. Workshops can offer practical, hands-on demonstrations or training in a particular aspect of digital technology with heritage applications. Workshops may be either a single session of 90 minutes or two of 40 minutes.

To make a submission for any of the above, please send a short outline (100-150 words) of your proposed presentation/seminar discussion/workshop to digitalpast@rcahmw.gov.uk together with details of your name and organisation.

Unconference’ session

A series of 15 minute sessions which can be booked by any delegate attending on a first-come, first-served basis. Booking will be available from 9.30am on the first day of the conference only. These sessions will allow for presentation on any project, research or issue relating to the use of digital technology in heritage. Presentations may be pre-prepared using PowerPoint, or purely in response to other discussions/issues raised during the event. 

Stands

A limited number of exhibition stands will be available for a two-day booking. Larger stands are available at a cost of £215 or a Poster stand at a cost of £165 and include the cost of one conference registration (prices are not subject to VAT). Booking will be available when conference registration is opened.

Deadline for submissions

The deadline for the submission of papers, seminars and workshops is Friday 1 October 2017. Decisions will be made after consideration of the merits of the individual submissions and their fit into the overall programme, and applicants notified by Friday 15 October 2017.

Free registration for the event will be extended to those presenting a paper or workshop. Please note that while submissions which include more than one speaker are welcome, only one free registration per submission. No further expenses are available.

For overseas applicants, presentation of papers via live-web streaming may be considered.

For further information or any questions please contact Susan Fielding at digitalpast@rcahmw.gov.uk or on 01970 621219.

#digitalpast2018

Dathlu deng mlynedd o dechnolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

Cynhadledd ddau ddiwrnod sy’n canolbwyntio ar dechnolegau digidol arloesol ar gyfer casglu, dehongli a lledaenu gwybodaeth am safleoedd ac arteffactau treftadaeth yw Gorffennol Digidol.

Gan ei bod hi’n ben-blwydd Gorffennol Digidol yn 10 oed eleni, byddent yn myfyrio ar y datblygiadau cyffrous ym maes treftadaeth ddigidol yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, y gwersi a ddysgwyd, a’r cyfleoedd a heriau ar gyfer y sector yn ystod y degawd nesaf.

Cynhelir cynhadledd Gorffennol Digidol 2018 yn y Ganolfan Gelfyddydau arobryn yn Aberystwyth. Hon yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru ac oddi yma fe welwch olygfeydd godidog dros y dref farchnad a chyrchfan gwyliau hanesyddol – sydd hefyd yn dref brifysgol fywiog – a Bae Ceredigion. Mae Aberystwyth, ‘Biarritz Cymru’, hanner ffordd ar hyd arfordir prydferth gorllewin Cymru mewn lleoliad cyfleus ar Reilffordd y Cambria.

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfuniad o bapurau a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn edrych ar y technegau arolygu technegol a dehongli diweddaraf a’u cymwysiadau ym meysydd dehongli, addysgu a diogelu treftadaeth.

Galwad am gyfraniadau

Mae Gorffennol Digido yn ceisio cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio ar brosiectau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod, naill ai fel ymchwilwyr neu staff, a all gyfrannu i’r gynhadledd hon sy’n edrych yn ôl ac ymlaen. Gellir cyfrannu ar ffurf cyflwyniadau, seminarau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol drwy’r sesiwn ‘anghynhadledd’ neu stondin arddangos. Maent yn croesawu cyfraniadau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog Manylir isod ar y gwahanol ddulliau.

Themâua thopigau

Dau brif linyn y gynhadledd fydd Technolegau Digidol a Threftadaeth Ddigidol, a gallant gynnwys topigau fel arolygu digidol (Sganio Daearol, Geoffiseg, LiDAR, Ffotogrametreg, awyrennau di-beilot, ac ati), prosesu, trin a dadansoddi data (gan gynnwys GIS a BIM), storio ac archifo data, modelu ac ail-greu 3D, delweddu ac animeiddio, Realiti Estynedig, Realiti Rhithwir, chwarae gemau, amgylcheddau ymgollol, argraffu 3D, e-gyhoeddi, cymorth torfol, cymunedau, addysg, ymgysylltu, dehongli a thwristiaeth.

 Gan mai hon yw’r 10fed gynhadledd Gorffennol Digidol, maent hefyd yn ceisio papurau sy’n bwrw golwg dathliadol a beirniadol dros ddeng mlynedd o dreftadaeth ddigidol, y gwersi a ddysgwyd, a’r cyfleoedd a heriau ar gyfer y sector yn ystod y degawd nesaf.

Felly dyma dopigau posibl eraill, er nad yw’n rhestr gyflawn:

  • Effeithiau technolegau digidol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd y sector treftadaeth;
  • Goblygiadau gofynion digidol/arloesol cyrff cyllido;
  • Goblygiadau Brexit ar gyfer cyllido technolegau digidol a chydweithredu yn y maes;
  • Goblygiadau llymder ar gyfer arloesi a datblygu technolegol;
  • Goblygiadau dwyieithrwydd ar gyfer llwyfannau digidol.

Papurau

Papurau 20 munud wedi’u cyflwyno yn y dull confensiynol, sef fformat cyflwyniad a PowerPoint. Bydd 4 papur o’r fath ym mhob sesiwn a chyfnod holi a thrafod o 10 munud ar ddiwedd pob sesiwn. Oherwydd yr amserlen dynn iawn, mynnir bod y siaradwyr yn cadw at yr amser a neilltuir iddynt.

Gweithdai

Cynhelir y gweithdai ar fore’r 8fed o Chwefror. Dylent gynnig arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar agwedd benodol ar dechnoleg ddigidol sydd â chymwysiadau treftadaeth. Gall gweithdai fod yn un sesiwn o 90 munud neu’n ddwy sesiwn o 40 munud.

Os hoffech gymryd rhan yn y gynhadledd, anfonwch fraslun (100-150 o eiriau) o’ch cyflwyniad / trafodaeth seminar / gweithdy arfaethedig i gorffennoldigidol.gov.uk ynghyd â’ch enw a manylion eich sefydliad.

Sesiwn ‘Anghynhadledd’

Cyfres o sesiynau 15 munud y gall unrhyw un sy’n mynychu’r gynhadledd eu bwcio. Gellir bwcio sesiwn o 9.30am ymlaen ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn unig, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i gynadleddwyr wneud cyflwyniad ar unrhyw brosiect, ymchwil neu fater yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ym maes treftadaeth. Gall cyflwyniadau fod wedi’u paratoi ymlaen llaw gan ddefnyddio PowerPoint, neu gallant fod yn ymateb i drafodaethau neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

Stondinau

Bydd nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos ar gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod. Bydd stondinau mawr ar gael am £215 neu stondinau Poster am £165 ac mae’r prisiau hyn yn cynnwys cost un cofrestriad cynhadledd (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio ar ôl i’r gynhadledd gael ei hagor ar gyfer cofrestriadau.

Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyniadau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Gwener y 1af o Hydref 2017. Caiff penderfyniadau eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r cyflwyniadau unigol a sut maent yn cyd-fynd â’r rhaglen gyffredinol, a hysbysir yr ymgeiswyr erbyn Dydd Gwener y 15fed o Hydref 2017.

Bydd y rheiny sy’n cyflwyno papur, seminar neu weithdy yn gallu cofrestru am ddim. Byddwch cystal â sylwi: er ein bod ni’n barod i dderbyn cyflwyniadau sy’n cynnwys mwy nag un siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad am ddim ar gyfer pob cyflwyniad. Ni allwn, yn anffodus, gynnig treuliau pellach.

Mae Gorffennol Digidol yn croesawu cyfraniadau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.

Yn achos ymgeiswyr tramor, gellir ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy we-ffrydio byw.

I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Susan Fielding yn gorffennoldigidol@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621219.

#gorffennoldigidol2018


CARARE